#

Deiseb: Caniatáu i Yrwyr Tacsi Symud yn Rhydd i wneud Gwaith Hurio Preifat Unrhyw Le yng Nghymru
Y Pwyllgor Deisebau | 9 Hydref 2018
 Petitions Committee | 9 October 2018
 

 

 

 

 


Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil:

Rhif y ddeiseb: P-05-835

Teitl y ddeiseb: Caniatáu i Yrwyr Tacsi Symud yn Rhydd i wneud Gwaith Hurio Preifat Unrhyw Le yng Nghymru

Testun y ddeiseb:

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i ganiatáu i Yrwyr Tacsis wneud gwaith hurio preifat yn rhydd unrhyw le yng Nghymru, waeth ym mha gyngor y mae’r gyrrwr wedi’i drwyddedu.

Rydym yn cyflwyno’r ddeiseb hon mewn ymateb i weithredoedd grŵp o yrwyr tacsis sydd wedi’u lleoli mewn un Ddinas. Rydym yn galw ar y Cynulliad Cenedlaethol i ystyried dymuniadau gyrwyr a gweithredwyr tacsis ledled Cymru, yn hytrach nag un grŵp bach o yrwyr o un ddinas.

Os byddwch yn archebu tacsi, naill ai drwy ffonio rhywun neu ddefnyddio ap, gall y cwmni hwnnw yn gyfreithiol anfon car atoch chi, waeth ble rydych chi na ble mae’r cwmni wedi’i leoli. Pe byddech chi yn y Barri ac yn ffonio cwmni o Gaerdydd am dacsi i fynd â chi i Gaerffili, fe allent ac fe fyddent yn anfon car i ddod i nôl chi yn y Barri a mynd â chi i Gaerffili.

Pe byddech chi yn Abertawe, ac am fynd i Lanelli ac yn methu â chael tacsi, gallech ffonio cwmni ym Mhen-y-bont ar Ogwr, a gallent anfon car i’ch codi chi, pe byddai un ar gael ganddynt.

Mae hyn yn rhoi mwy o ddewis i ddefnyddwyr tacsis o ran pa gwmnïau y gallant ac na allant eu defnyddio. Mae mwy o ddewis, a mwy o opsiynau, yn golygu bod mwy o gystadleuaeth yn annog cwmnïau i ddarparu gwell gwasanaeth er mwyn cadw cwsmeriaid.

O safbwynt y gyrrwr, pe byddent wedi’u trwyddedu yng Nghaerdydd, a’u bod yn mynd â rhywun i Faes Awyr Caerdydd, a bod gan weithredwr sydd wedi’i leoli yng Nghaerdydd archeb gan rywun i gael ei godi ym Maes Awyr Caerdydd sy’n mynd i Ferthyr, gall y gyrrwr o Gaerdydd wneud y gwaith hwnnw.

Cefndir

Awdurdodau lleol sy’n gyfrifol am drwyddedu tacsis a cherbydau hurio preifat yng Nghymru.  Y farn gyffredinol yw bod y gyfraith ar dacsis a cherbydau hurio preifat yn anacronistig ac yn gymhleth.

Er bod y term “tacsi” yn cael ei ddefnyddio’n aml i ddisgrifio tacsis a cherbydau hurio preifat, cânt eu trwyddedu’n wahanol mewn system reoleiddio ‘dwy haen’. Yn 2014, cyhoeddodd Comisiwn y Gyfraith adroddiad terfynol ar ddiwygiadau arfaethedig i wasanaethau tacsis a cherbydau hurio preifat a oedd yn crynhoi’r gwahaniaethau fel a ganlyn:

Taxis can pick passengers up at ranks and be hailed. In legal terms, these activities are currently referred to as “plying for hire” and only taxis can engage with passengers in these ways. Private hire vehicles, on the other hand, can only be pre-booked through a licensed operator, and are not allowed to “ply for hire”.

Gellir archebu tacsis ymlaen llaw a gallant yrru i chwilio am fusnes. Fodd bynnag, ni allant ond gael eu gyrru i chwilio am fusnes o fewn yr ardal y maent yn drwyddedig ynddi. 

Cyn gweithredu Deddf Dadreoleiddio 2015 yng Nghymru a Lloegr, gallai cerbydau hurio preifat godi neu ollwng teithwyr y tu hwnt i’r ardal yr oeddent yn drwyddedig ynddi. Fodd bynnag, ni allai is-gontractio ond digwydd rhwng cwmnïau â thrwydded yn yr un ardal. Argymhellodd Comisiwn y Gyfraith y dylid dileu’r cyfyngiad hwn. Hefyd, argymhellodd Comisiwn y Gyfraith y dylid cael gwared â’r gofyniad cyfreithiol fod gyrrwr, cerbyd a gweithredwr wedi’u trwyddedu yn yr un ardal.

Byddai’r mesurau diogelu a ganlyn yn cyd-fynd â’r dull gweithredu mwy rhyddfrydig hwn a gynigiwyd gan y Comisiwn:

Under our recommended regulatory framework, licensing district boundaries lose much of their importance in relation to private hire vehicles. Although local authorities will continue to administer licences applied for in their area, they will do so on the basis of national standards, which they will have no discretion to vary. Once licensed, providers will be able to work across England and Wales and subject to enforcement action by officers of any licensing authority.

O ganlyniad, roedd Adran 11 o Ddeddf Dadreoleiddio 2015 yn galluogi gweithredwr cerbydau hurio preifat i is-gontractio archeb i weithredwr arall a oedd wedi’i drwyddedu mewn ardal drwyddedu wahanol. Argymhellwyd hyn gan Gomisiwn y Gyfraith (argymhelliad 45). Fodd bynnag, cyflwynwyd y newid hwn heb y safonau cenedlaethol cysylltiedig a’r newidiadau i’r gyfundrefn orfodi ac ati a gynigiwyd gan Gomisiwn y Gyfraith.

Roedd cyhoeddiad gan Gymdeithas Llywodraeth Leol ynghylch y Ddeddf yn nodi (pwyslais wedi’i ychwanegu):

The LGA strongly opposed the clause [which became section 11] on the grounds that it had been brought forward without the accompanying safeguards deemed necessary by the Law Commission’s review of taxi licensing.

Cafodd trwyddedu a rheoleiddio tacsis a cherbydau hurio preifat eu datganoli gan Ddeddf Cymru 2017 yn gynharach eleni.

Camau gweithredu Llywodraeth Cymru

Cynhaliodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad ar drwyddedu tacsis a cherbydau hurio preifat yng Nghymru rhwng mis Mehefin a mis Medi 2017. Mae crynodeb o’r ymatebion wedi ei gyhoeddi ers hynny (PDF 828KB). Diben yr ymgynghoriad oedd trafod cynigion Comisiwn y Gyfraith. Roedd y meysydd allweddol a nodwyd yn cynnwys cynigion a fyddai’n:

§    cyflwyno safonau cenedlaethol ar gyfer pob tacsi a phob cerbyd hurio preifat â’r pŵer i awdurdodau trwyddedu lleol bennu safonau ychwanegol pan fo’n briodol gwneud hynny; a’i

§    wneud yn haws i ddarparwyr tacsis a gwasanaethau hurio preifat weithio ar draws ffiniau awdurdodau lleol a bydd yn rhoi pwerau gorfodi newydd i swyddogion trwyddedu i ymdrin â cherbydau a gyrwyr sydd wedi eu trwyddedu mewn gwahanol ardaloedd;

Nododd y crynodeb o’r ymatebion i’r ymgynghoriad:

Un o brif bryderon gyrwyr a gweithredwyr cerbydau hurio preifat yn ystod yr ymgynghoriad oedd y ffaith bod gormod o gerbydau’n gweithredu mewn ardal e.e. roedd nifer o’r cerbydau syn gweithredu yn ardal Caerdydd wedi’u trwyddedu mewn awdurdodau cyfagos. Clywsom am enghreifftiau o gerbydau a drwyddedwyd yn Lloegr, gan gynnwys Llundain, yn gweithredu yng Nghaerdydd a’r cyffiniau.

Roedd y crynodeb hefyd yn nodi bod “y rhan fwyaf o ymatebwyr” yn cefnogi cynigion ar gyfer safonau cenedlaethol. O ran mesurau gorfodi, awgrymodd 66 y cant o’r ymatebwyr a fynegodd farn y dylid rhoi trefniadau ar waith i awdurdodau trwyddedu rannu gwybodaeth er mwyn hybu trefniadau gorfodi gwell.

Mae llythyr Ysgrifennydd y Cabinet at y Cadeirydd ynghylch y ddeiseb hon yn nodi y bydd yn cyhoeddi Papur Gwyn eleni a fydd yn cynnwys cynigion manwl ar gyfer diwygio. Mewn cyferbyniad â’r cynnig yn y ddogfen ymgynghori, sy’n cyfeirio at wneud gwaith trawsffiniol yn “haws”, mae’r llythyr yn mynd ymlaen i nodi:

Whilst my proposals will include new measures to limit out of area working, I will be including arrangements to improve out of area working where it is prudent and appropriate to do so.  One such example will be the need to increase capacity to meet increased demand when hosting major events.

Camau gweithredu Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Ar hyn o bryd, mae’r Pwyllgor Deisebau yn trafod Deiseb P-05-775 Caewch y bwlch sy’n ymwneud â gweithio trawsffiniol ac is-gontractio yn y gyfraith trwyddedu tacsis. Mae’r ddeiseb hon yn galw ar Lywodraeth Cymru, yn sgil ei ymgynghoriad, i:

gau’r bwlch sy’n ymwneud â gweithio trawsffiniol ac is-gontractio yn y gyfraith, gan olygu bod cannoedd o dacsis a cherbydau hurio preifat o’r tu allan i’r dref yn heidio i Gaerdydd i weithio ar sail hurio preifat.

Yn gynnar yn 2018, trafododd y Pwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau ddatganoli trwyddedu tacsis a cherbydau hurio preifat fel rhan o’i ymchwiliad byr, sef Pwerau Newydd: Posibiliadau Newydd. Roedd yr ymchwiliad hwn yn trafod sut y dylai Llywodraeth Cymru ddefnyddio ystod o bwerau dros drafnidiaeth a ddatganolwyd gan Ddeddf Cymru 2017. Ar 17 Ionawr, clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan yrwyr tacsi Caerdydd, swyddogion trwyddedu awdurdodau lleol ac undeb GMB. Trafodwyd materion trawsffiniol o ran tacsis/cerbydau hurio preifat, gorfodi a safonau. 

Gan grynhoi’r dystiolaeth a ddaeth i law mewn gohebiaeth at Ysgrifennydd y Cabinet (PDF 742KB), dywedodd y Pwyllgor:

Mae hurio/gweithio trawsffiniol (h.y. tacsis sydd wedi’u trwyddedu mewn un awdurdod lleol yn gweithio mewn un arall) yn broblem fawr y mae angen mynd i’r afael â hi. Roedd rhai yn awgrymu y dylai pob taith ddechrau neu orffen yn yr ardal a roddodd drwydded tacsi/cerbyd hurio preifat y gyrrwr. Dywedodd y tystion fod gyrwyr sydd wedi’u cofrestru gyda Transport for London yn gweithio yng Nghaerdydd ar hyn o bryd, ac mae 144 o yrwyr Uber sydd wedi’u cofrestru yng Nghasnewydd yn byw yng Nghaerdydd.

Hefyd, nododd y Pwyllgor y safonau amrywiol ledled Cymru a thystiolaeth sy’n awgrymu bod:

gorfodaeth yn broblem oherwydd oedran y ddeddfwriaeth gyfredol. Nid yw awdurdodau lleol yn gallu cymryd camau gorfodaeth ar hyn o bryd yn erbyn gyrrwr sy’n gweithio yn ei ardal ond sydd wedi’i drwyddedu gan awdurdod gwahanol. Mae angen mwy o arian i wella gorfodaeth.

 

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.